Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Hydref 2020
Amser:
09.46 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6458
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Hugh Morgan, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Alastair McQuaid |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Gwnaeth Jenny Rathbone AS ddatgan buddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd 2013 - 2015.
1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Anthony Barrett a Mike Usher am eu cyfraniadau i archwiliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a'u rolau wrth gefnogi'r Pwyllgor. Dymunodd yn dda i'r ddau ohonynt, ar ran y Pwyllgor, yn dilyn eu hymadawiad diweddar o Archwilio Cymru.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2a Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cracio'r Cod - Rheoli Codio Clinigol Ledled Cymru
2b Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: 10 Cyfle i Ailosod ac Ailgychwyn System Gofal wedi’i Gynllunio y GIG
3 Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
3.1 Cafodd y tystion eu holi gan yr Aelodau ynghylch Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian.
3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon peth gwybodaeth ychwanegol at y Pwyllgor.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Cynllunio digwyddiadau rhanddeiliaid
6.1 Trafododd yr Aelodau y papur a’i nodi.